Cyfarfod Blynyddol a Misol y Cyngor

nos Fawrth, Mai 14eg 2024 at 7.30 y.h 

yn y Ganolfan Gymdeithasol, Pentrefoelas 

Croeso cynnes i bawb

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda'r clerc Enid Williams.

HYSBYSIAD 0 BENNU DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR: Gwelwch hon ar dudalen dogfennau'r cyngor.

Croeso i wefan Pentrefoelas

Gwefan sydd wedi ei osod gan Gyngor Cymuned Pentrefoelas ar gyfer y gymuned i gyd yw hon. Yr ydym yn gobeithio bydd y wefan yn dod yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer yr ardal o gwmpas ein pentref.

Mae Pentrefoelas ar y A5, lon hanesyddol y Goets Fawr o Llundain i Gaergybi. Yn cymeryd ei enw o'r 'Foel Las', bryn i'r gogledd o'r pentref lle mae olion castell o'r canol oesoedd.

I'r gogledd a'r dwyrain mae ardal Mynydd Hiraethog, a'r lon A543 i Ddinbych. I'r de mae uchder Carnedd-y-Filiast, 669 medr uwchben lefel y mor.

Digwyddiadau'r Pythefnos Nesaf: